Datganiad hygyrchedd ar gyfer GOV.UK One Login
Mae GOV.UK One Login yn rhan o wefan ehangach GOV.UK. Mae datganiad hygyrchedd ar wahân ar gyfer prif wefan GOV.UK.
Mae’r dudalen hon yn cynnwys gwybodaeth am y gwasanaeth GOV.UK One Login, sydd ar gael yn www.signin.account.gov.uk a’r gwesgwrs cymorth i ddefnyddwyr sydd ar gael yn home.account.gov.uk/contact-gov-uk-one-login.
Defnyddio GOV.UK One Login
Mae GOV.UK One Login yn cael eu rhedeg gan y Gwasanaeth Digidol y Llywodraeth (GDS), rhan o Swyddfa’r Cabinet. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio GOV.UK One Login. Mae hynny’n golygu y dylech allu:
- newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau
- chwyddo hyd at 300% heb i’r testun ollwng oddi ar y sgrin
- llywio’r rhan fwyaf o GOV.UK One Login drwy ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
- llywio’r rhan fwyaf o GOV.UK One Login drwy ddefnyddio meddalwedd adnabod lleferydd
- gwrando ar y rhan fwyaf o GOV.UK One Login drwy ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)
Rydym hefyd wedi gwneud testun yn GOV.UK One Login mor syml â phosibl i’w ddeall.
Mae gan AbilityNet gyngor ar sut i wneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych anabledd.
Pa mor hygyrch yw GOV.UK One Login
Materion hygyrchedd ar y gwasanaeth GOV.UK One Login
Nid yw’r rhannau canlynol o wefan GOV.UK One Login yn gwbl hygyrch:
- nid yw’n bosib stopio na newid hyd yr amseru allan pan fyddwch yn defnyddio, mewngofnodi i neu greu GOV.UK One Login
- nid yw’n bosib i ddarllenydd sgrin wybod pryd mae’r e-byst rydym yn eu hanfon mewn iaith ar wahân i’r Saesneg
- mae un dudalen yn ail-lwytho yn awtomatig ar ôl terfyn amser penodol, ac nid yw’n bosibl i stopio neu oedi hyn
- mae’r ddolen allgofnodi pennawd yn achosi bar sgrolio llorweddol ar chwyddiadau mawr iawn ar ddyfeisiau symudol
- nid yw bob amser yn bosibl defnyddio opsiynau awtomatig eich porwr i roi gwybodaeth
- nid yw’r dolenni yn y troedyn yr un peth ar bob tudalen
- mae dolen wag yn y pennawd am ran fer o’r daith
- nid yw rhai tudalennau’n nodi’n gywir yr iaith y maent yn cael eu cyhoeddi ynddi
- nid yw teitlau rhai tudalennau yn dechrau gyda ‘gwall’ os nad ydych wedi rhoi’r wybodaeth sydd ei hangen yn y ffurf cywir
- mae rhai dolenni yn y pennawd a’r troedyn y gallech ddisgwyl eu hagor mewn tab newydd yn agor yn yr un tab
- mae rhai meysydd ffurflen yn cyfyngu ar faint o nodau y gellir eu rhoi ynddynt, a all ei gwneud hi’n anodd rhoi gwybodaeth wrth ddefnyddio technolegau cynorthwyol
- nid yw botymau sy’n dangos animeiddiadau ‘spinner’ yn cadw at eich gosodiadau cynnig llai
- nid yw’r wybodaeth yng nghynnwys y faner cwci yr un peth ar bob tudalen y mae’n ymddangos arni
Ewch i’r manylion technegol materion hygyrchedd gwasanaeth GOV.UK One Login.
Materion hygyrchedd ar gwesgwrs GOV.UK One Login
Nid yw’r rhannau canlynol o’r gwe-sgwrs GOV.UK One Login yn gwbl hygyrch:
- efallai na fydd meddalwedd rheoli llais yn gallu labelu cynnwys gwesgwrs yn gywir:
- os ydych yn defnyddio Safari, bydd angen i chi ddefnyddio’r swyddogaeth ‘show grid’ i ddefnyddio’r gwesgwrs
- os ydych yn defnyddio Chrome efallai y bydd angen i chi ofyn i’r cyfrifiadur ‘guddio rhifau’ a ‘dangos rhifau’ eto i adnewyddu labelu’r cynnwys
- nid yw’n bosib newid iaith yng nghanol sesiwn sgwrsio – os gwnewch, byddwch yn colli eich hanes sgwrs
- nid yw’n bosib arbed eich sesiwn sgwrsio i gyfeirio ato yn ddiweddarach os byddwch yn gadael y dudalen gyswllt
- os ydych yn defnyddio bysellfwrdd allanol, efallai na fydd y ffocws yn cyrraedd adran cwestiwn ac ateb y gwesgwrs a gallai ddiflannu’n llwyr
- mae rhai porwyr yn symud ffocws y bysellfwrdd i ddechrau’r gwesgwrs pan ychwanegir cynnwys newydd
- os ydych yn defnyddio darllenydd sgrin, efallai y bydd yn anodd gwahaniaethu rhwng opsiynau ateb pan maent yn cael eu hychwanegu gyntaf at y gwesgwrs
- weithiau nid yw’r testun ateb yn ddigon disgrifiadol wrth ddarllen allan o gyd-destun yn y gwesgwrs
- mae’r label maes ffurflen yn cael ei ddileu dros dro pan fyddwch yn teipio ymateb - mae’r label maes yn cael ei ddisodli pan fyddwch yn anfon eich ymateb
- mae ffocws yn dychwelyd i’r eicon gwesgwrs ar ôl i’r gwesgwrs gael ei gau, hyd yn oed os byddwch yn cychwyn y gwesgwrs o’r ddolen yng nghynnwys y dudalen
- os ydych yn defnyddio darllenydd sgrin, ni fydd y gwesgwrs yn cadarnhau ei fod wedi’i gau
Ewch i’r manylion technegol materion hygyrchedd gwesgwrs GOV.UK One Login.
Byddwn yn diweddaru’r dudalen hon pan fydd y materion wedi cael eu datrys neu gyda gwybodaeth ynghylch pryd rydym yn bwriadu eu datrys.
Beth i’w wneud os ydych yn cael trafferth defnyddio GOV.UK One Login neu’r gwesgwrs
Os ydych yn cael trafferth defnyddio unrhyw ran o GOV.UK One Login, cysylltwch â ni.
Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda GOV.UK One Login
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd GOV.UK One Login. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi’u rhestru ar y dudalen hon neu’n credu nad ydym yn cwrdd â gofynion hygyrchedd, cysylltwch â ni.
Gweithdrefn orfodi
Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’).
Os nad ydych yn hapus â sut rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd GOV.UK One Login
Mae Gwasanaeth Digidol y Llywodraeth wedi ymrwymo i wneud GOV.UK One Login yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Cheisiadau Symudol) (Rhif 2) Hygyrchedd 2018.
Statws cydymffurfio
Mae GOV.UK One Login yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.2 oherwydd y diffyg cydymffurfiaeth a restrir isod.
Cynnwys anhygyrch
Nid yw’r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol.
Diffyg cydymffurfiaeth â’r rheoliadau hygyrchedd ar gyfer y gwasanaeth GOV.UK One Login
- Pan fyddwch yn creu GOV.UK One Login neu’n mewngofnodi, os nad ydych yn gwneud unrhyw beth am 60 munud, bydd y broses yn dod i ben (amseru allan) neu byddwch yn cael eich allgofnodi. Nid yw’n bosibl addasu, ymestyn neu ddiffodd yr amseru allan. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant 2.2.1 (Amseru Addasadwy) WCAG 2.2.
- Mae’r ddolen allgofnodi pennawd yn achosi bar sgrolio llorweddol ar chwyddiadau mawr iawn ar ddyfeisiau symudol. Os ydych chi’n defnyddio technolegau cynorthwyol efallai y byddwch yn cael hi’n anoddach i lywio tudalennau os ydych chi’n cynyddu’r lefel chwyddo. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant 1.4.10 (Reflow) WCAG 2.2.
- Nid yw bob amser yn bosibl defnyddio opsiynau awtomatig eich porwr i roi gwybodaeth. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant 1.3.5 (Diben Mewnbwn Hunaniaeth) WCAG 2.2.
- Os ydych chi’n defnyddio technolegau cynorthwyol, efallai y bydd yn cymryd mwy o amser i chi rhoi gwybodaeth. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant 1.3.5 (Pwrpas Mewnbwn Hunaniaeth) WCAG 2.2.
- Nid yw’r dolenni yn y troedyn yr un peth ar bob tudalen. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant 3.2.6 (Cymorth Cyson) WCAG 2.2.
- Mae dolen wag yn y pennawd ar gyfer rhan fer o’r daith. Os ydych chi’n defnyddio technolegau cynorthwyol efallai eich bod chi’n ymwybodol o’r ddolen ond ni fyddwch yn gallu ei dewis. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant 3.2.3 (Llywio Cyson) WCAG 2.2.
- Nid yw rhai tudalennau’n nodi’n gywir yr iaith y maent yn cael eu cyhoeddi ynddi. Mae hyn yn golygu na fydd darllenwyr sgrin yn darllen cynnwys yn gywir. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant 3.1.1 (Iaith y Dudalen) WCAG 2.2.
- Nid yw teitlau rhai tudalennau yn dechrau gyda ‘gwall’ os nad yw’r defnyddiwr wedi rhoi’r wybodaeth sydd ei hangen yn y ffurf cywir. Mae hyn yn golygu nad yw defnyddwyr darllenwyr sgrin yn gwybod ar unwaith bod problem. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant 2.4.2 (Teitl y dudalen) WCAG 2.2.
- Mae dolenni yn y pennawd a’r troedyn y gallech ddisgwyl eu hagor mewn tab newydd weithiau’n agor yn yr un tab. Mae hyn yn methu WCAG 2.2 Guideline 3.2 (Predictable).
- Mae rhai meysydd ffurflen yn cyfyngu ar faint o nodau y gellir eu rhoi, a all ei gwneud hi’n anodd rhoi gwybodaeth os ydych chi’n defnyddio technolegau cynorthwyol. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant 3.3.1 (Adnabod Gwallau) WCAG 2.2.
- Nid yw botymau sy’n dangos animeiddiadau ‘spinner’ yn cadw at eich gosodiadau cynnig llai. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant 2.2.2 (Saib, Stop, Cuddio) WCAG 2.2.
- Nid yw’r wybodaeth yng nghynnwys y faner cwci yr un peth ar bob tudalen y mae’n ymddangos arni. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant 3.2.6 (Cymorth Cyson) WCAG 2.2.
Diffyg cydymffurfiaeth â’r rheoliadau hygyrchedd ar gyfer gwesgwrs GOV.UK One Login
- Efallai na fydd meddalwedd rheoli llais yn gallu labelu’r cynnwys gwesgwrs yn gywir. Mae hyn yn methu WCAG 2.2 success criterion 4.1.2 (Name, role, value).
- Os ydych yn defnyddio bysellfwrdd allanol ar ddyfeisiau symudol, efallai na fydd ffocws y bysellfwrdd yn cyrraedd yr adran cwestiwn ac ateb a gallai ddiflannu’n llwyr. Mae hyn yn methu WCAG 2.2 success criterion 2.1.1 (Keyboard) a WCAG 2.2 success criterion 2.1.2 (No keyboard trap).
- Mae rhai porwyr yn symud y ffocws allweddell sgwrsio i ddechrau’r sgwrs pan ychwanegir cynnwys sgwrsio newydd. Mae hyn yn methu WCAG 2.2 success criterion 2.4.3 (Focus order).
- Os ydych yn defnyddio darllenydd sgrin, gall fod yn anodd gwahaniaethu rhwng y gwahanol opsiynau ateb cyflym a ddarperir gan y gwesgwrs. Mae hyn yn methu WCAG 2.2 success criterion 1.3.1 (Info and relationships).
- Weithiau nid yw’r testun ateb mewn botymau yn ddigon disgrifiadol allan o gyd-destun. Mae hyn yn methu WCAG 2.2 success criterion 2.4.6 (Headings and labels).
- Mae’r label maes yn cael ei dynnu o’r ffurflen pan fyddwch yn teipio eich ymateb eich hun i neges, ond mae’n cael ei ddisodli pan fyddwch pwyso dychwelyd. Mae hyn yn methu WCAG 2.2 success criterion 3.3.2 (Labels and instructions).
- Mae ffocws yn dychwelyd i’r eicon gwesgwrs ar ôl i’r gwesgwrs gael ei gau, hyd yn oed os byddwch yn cychwyn y sgwrs we o’r ddolen yng nghynnwys y dudalen. Mae hyn yn methu WCAG 2.2 success criterion 2.4.3 (Focus order).
Mae tri mater nad ydym yn credu sy’n cydymffurfio â rheoliadau hygyrchedd ond a allai fod yn rhwystredig i ddefnyddwyr:
- nid yw’n bosibl newid iaith yng nghanol sesiwn sgwrsio
- nid yw’n bosibl arbed eich sesiwn sgwrsio
- nid yw’r gwesgwrs yn cadarnhau ei fod wedi ei gau i ddefnyddwyr darllenydd sgrin
Beth rydym yn ei wneud i wella hygyrchedd
Byddwn yn diweddaru’r dudalen hon pan fydd materion wedi cael eu datrys, pryd byddwn yn disgwyl iddynt gael eu datrys neu pan fydd problemau newydd yn cael eu nodi.
Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn
Paratowyd y datganiad hwn ar 4 Tachwedd 2020. Cafodd ei adolygu ddiwethaf ar 5 Mehefin 2024.
Cafodd GOV.UK One Login ei brofi ddiwethaf ym mis Hydref a Tachwedd 2023. Cynhaliwyd y prawf gan dîm hygyrchedd GOV.UK One Login, a gynhyrchodd archwiliad o’r daith yn Rhagfyr 2023. Asesodd dîm hygyrchedd GOV.UK One Login y gwasanaeth GOV.UK One Login yn erbyn y Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe (WCAG) 2.2 wrth baratoi ar gyfer y canllawiau sy’n cael eu gorfodi yn Hydref 2024.
Profwyd y gwasanaeth gwesgwrs GOV.UK One Login ddiwethaf ym mis Ebrill 2024. Cynhaliwyd archwiliad cychwynnol gan dîm hygyrchedd GOV.UK One Login ym mis Hydref 2023. Cafodd y gwasanaeth ei archwilio gan y Ganolfan Hygyrchedd Digidol (DAC) ym mis Ionawr 2024. Asesodd archwiliad DAC y gwasanaeth gwe-sgwrs yn erbyn WCAG 2.1, ond mae pob methiant meini prawf llwyddiant hefyd yn berthnasol i WCAG 2.2.