Telerau ac amodau GOV.UK One Login

Mae’r telerau ac amodau hyn yn ymdrin yn benodol â GOV.UK One Login. Gallwch ddefnyddio GOV.UK One Login i gael mynediad i a defnyddio rhai o wasanaethau a nodweddion y llywodraeth. Mae gan dudalennau sy’n rhan o GOV.UK One Login urls sy’n cynnwys account.gov.uk. Os ydych yn defnyddio rhannau eraill o GOV.UK dylech hefyd ddarllen y telerau ac amodau ar gyfer GOV.UK.

Rheolir y GOV.UK One Login gan Gwasanaeth Digidol y Llywodraeth (GDS) ar ran y Goron. Mae GDS yn rhan o Swyddfa’r Cabinet a chaiff ei gyfeirio ato fel ’ni’ o hyn ymlaen.

Darllenwch y telerau ac amodau hyn, yr hysbysiad preifatrwydd GOV.UK One Login a Pholisi cwcis cyfrifon GOV.UK cyn defnyddio’r GOV.UK One Login. Mae’r hysbysiad preifatrwydd yn egluro’r telerau rydym yn prosesu unrhyw ddata personol y byddwn yn ei gasglu gennych neu eich bod yn ei ddarparu i ni. Mae’r polisi cwcis yn rhoi gwybodaeth am y cwcis rydym yn eu defnyddio a sut rydym yn eu defnyddio pan rydych yn defnyddio GOV.UK neu eich GOV.UK One Login.

Drwy gofrestru ar gyfer a pharhau i ddefnyddio GOV.UK One Login, rydych yn cytuno i’r telerau ac amodau hyn, yr hysbysiad preifatrwydd a’r polisi cwcis.

Newidiadau i’r telerau ac amodau hyn

Gallwn ddiweddaru’r telerau hyn, yn ogystal â’r polisi cwcis a’r hysbysiad preifatrwydd, ar unrhyw adeg heb rybudd.

Os ydym yn newid y telerau ac amodau, byddwn yn gofyn i chi eu derbyn y tro nesaf y byddwch yn mewngofnodi i GOV.UK One Login.

Cael mynydiad i’ch GOV.UK One Login

Rydych yn gyfrifol am wneud yr holl drefniadau i chi gael mynediad i’ch GOV.UK One Login. Mae hyn yn cynnwys darparu eich dyfais eich hun, system weithredu, porwr a chysylltiad rhyngrwyd. Dylech ddefnyddio dyfais sy’n defnyddio system weithredu Windows, OS, iOS neu Android. Rydym yn argymell eich bod yn defnyddio un o’r porwyr canlynol:

  • Y fersiwn diweddaraf o Google Chrome, Microsoft Edge, Mozilla Firefox, Samsung Internet neu Internet Explorer
  • Safari 12 neu ddiweddarach
  • Safari ar gyfer iOS 12.1 neu ddiweddarach

Nid ydym yn gwarantu y bydd GOV.UK One Login bob amser ar gael, neu bydd y mynediad iddo yn ddi-wall. Byddwn yn darparu ffordd i chi roi gwybod am broblemau gyda GOV.UK One Login.

Gallwn atal, stopio, dileu, diweddaru neu newid y GOV.UK One Login heb rybudd ar unrhyw adeg.

Cadw eich GOV.UK One Login yn ddiogel

Mae gennym lawer o fesurau mewn lle i gadw’ch gwybodaeth yn ddiogel, ond fel perchennog eich GOV.UK One Login, mae gennych chi hefyd rywfaint o gyfrifoldeb am ei ddiogelwch. Er enghraifft, dylech ddewis cyfrinair cryf ar gyfer eich cyfrif a sicrhau eich bod yn ei gadw’n ddiogel. Mae Canolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol y DU (NCSC) yn darparu cyngor ddiogelwch ar-lein.

Os ydych yn meddwl bod rhywun yn gwybod yr enw defnyddiwr a’r cyfrinair ar gyfer eich GOV.UK One Login, rhaid i chi ailosod eich cyfrinair cyn gynted â phosibl.

Defnyddio eich GOV.UK One Login

Byddwch yn defnyddio eich GOV.UK One Login i gael mynediad at wasanaethau’r llywodraeth ac nid at unrhyw bwrpas arall.

Oni bai bod y gyfraith yn ei ganiatáu neu o dan y telerau ac amodau hyn, rhaid i chi:

  • peidio â chopïo GOV.UK One Login ac eithrio lle mae copïo’n gysylltiedig â defnydd arferol
  • peidio â rhentu, prydlesu, is-drwyddedu, benthyca, cyfieithu, uno, addasu neu amrywio GOV.UK One Login
  • ddim cyfuno nac ymgorffori GOV.UK One Login gydag unrhyw raglenni neu wasanaethau eraill
  • peidio â dadosod, dadgrynhoi, gwrth-beiriannu na chreu gweithiau deilliadol yn seiliedig ar unrhyw ran o GOV.UK One Login
  • cydymffurfio â’r holl ddeddfau rheoli technoleg neu allforio sy’n berthnasol i’r dechnoleg a ddefnyddir gan GOV.UK One Login

Rhaid i chi beidio â defnyddio eich GOV.UK One Login:

  • i drosglwyddo unrhyw ddeunydd sy’n sarhaus neu dramgwyddus
  • i gasglu unrhyw ddata neu geisio difrïo unrhyw drosglwyddiadau i neu o’r gweinyddwyr sy’n rhedeg GOV.UK One Login
  • mewn ffordd a allai niweidio, analluogi, gorbwysleisio, amharu neu gyfaddawdu ein systemau neu ddiogelwch
  • mewn ffordd sy’n ymyrryd â defnyddwyr eraill
  • mewn unrhyw ddull anghyfreithlon neu dwyllodrus neu at unrhyw bwrpas anghyfreithlon neu dwyllodrus
  • mewn modd sy’n ddefnydd amhriodol neu’n anghyson â’r telerau ac amodau hyn
  • i gael neu geisio cael mynediad heb awdurdod i’r llwyfan GOV.UK, y gweinydd y mae’r llwyfan GOV.UK yn cael ei storio neu unrhyw weinydd, cyfrifiadur neu gronfa ddata sy’n gysylltiedig â llwyfan GOV.UK, drwy hacio neu ddulliau eraill
  • i drosglwyddo, anfon neu uwchlwytho unrhyw ddata sy’n cynnwys firysau, ceffylau Trojan, mwydod, spyware neu unrhyw raglenni niweidiol eraill a gynlluniwyd i effeithio’n andwyol ar weithrediad meddalwedd neu galedwedd cyfrifiadurol
  • mewn cysylltiad ag unrhyw fath o ymosodiad gwadu gwasanaeth neu at unrhyw bwrpas maleisus
  • gyda manylion cofrestredig rhywun arall, oni bai bod gennych yr awdurdod i wneud hynny ganddynt hwy

Os byddwch yn torri unrhyw un o’r telerau ac amodau hyn, gallwn eich atal rhag cael mynediad i’ch GOV.UK One Login a gallwn gymryd camau i orfodi’r telerau ac amodau hyn a chymryd camau eraill fel y bo’n briodol lle rydym wedi dioddef colled. Os, drwy wneud unrhyw un o’r gweithredoedd uchod, rydych hefyd yn cyflawni trosedd, gallwn roi gwybod i’r awdurdodau gorfodi’r gyfraith perthnasol. Efallai y byddwn yn cydweithredu â’r awdurdodau hynny drwy ddatgelu eich hunaniaeth iddynt hwy.

Dileu eich GOV.UK One Login

Gallwch ddileu eich GOV.UK One Login a’r wybodaeth ynddo yn barhaol ar unrhyw adeg drwy fewngofnodi neu gysylltu â ni. Byddwn yn cadw cofnod o wybodaeth benodol, yn unol â’n hysbysiad preifatrwydd, at ddibenion archwilio ac i helpu atal troseddu.

Newidiadau

Gallwn wneud newidiadau a gwelliannau i GOV.UK One Login ar unrhyw adeg a heb rybudd i:

  • gwneud gwelliannau technegol neu gywiriadau
  • gwella perfformiad y gwasanaeth
  • gwella ymarferoldeb
  • adlewyrchu newidiadau i’r system weithredu
  • mynd i’r afael â materion diogelwch
  • atal troseddu

Gwasanaethau a thrafodion

Gallwch ddefnyddio eich GOV.UK One Login i gael mynediad at wasanaethau ar-lein y llywodraeth. Gall y gwasanaethau hyn gael eu rheoli gan GDS, Swyddfa’r Cabinet neu adran neu asiantaeth arall o’r llywodraeth.

Bydd gan bob gwasanaeth ei delerau ac amodau hysbysiadau preifatrwydd a pholisïau cwcis ei hun, ar wahân, sy’n berthnasol i’r defnydd o’r gwasanaeth hwnnw. Dylech ddarllen rhain cyn defnyddio’r gwasanaeth.

Os yw gwasanaeth sy’n cael ei redeg gan adran neu asiantaeth arall y llywodraeth yn stopio bod yn hygyrch gyda GOV.UK One Login bydd y gwasanaeth yn cysylltu â chi i ddweud wrthych beth ddylech ei wneud.

Ein cyfrifoldeb cyfreithiol i chi

Mae’r GOV.UK One Login yn declyn ac nid oes gennym unrhyw atebolrwydd i chi ar gyfer gwasanaethau ar-lein y llywodraeth rydych yn cael mynediad atynt gan ddefnyddio GOV.UK One Login. Darparwr gwasanaeth y llywodraeth sy’n atebol i chi.

Er ein bod yn gwneud ymdrechion rhesymol i ddarparu, cynnal a diweddaru gwasanaeth GOV.UK One Login cadarn, fe’i darperir ’fel y mae’. Nid ydym yn gwneud unrhyw sylwadau mynegiannol nac ymhlyg neu warantau y bydd eich mynediad at, neu ddefnydd o, GOV.UK One Login, yn ddi-dor neu’n gwbl ddiogel.

Ni fyddwn yn atebol nac yn gyfrifol am unrhyw golled neu ddifrod a achosir gan feirws, ymosodiad atal gwasanaeth neu unrhyw ddeunydd niweidiol arall a all heintio’ch dyfais, offer, rhaglenni, data neu ddeunydd perchnogol arall oherwydd eich defnydd o GOV.UK One Login.

Colled a difrod

Nid oes dim byd yn y telerau ac amodau hyn yn eithrio neu’n cyfyngu ar ein rhwymedigaeth am:

  • marwolaeth neu anaf personol o ganlyniad i’n esgeulustod
  • twyll neu gamliwio twyllodrus
  • unrhyw atebolrwydd arall na ellir ei eithrio neu ei gyfyngu o dan gyfraith Lloegr

Nid ydym yn atebol am unrhyw:

  • colled neu ddifrod a allai ddod o ddefnyddio GOV.UK One Login nad yw’n cael ei achosi oherwydd i ni dorri’r telerau ac amodau hyn
  • colled neu ddifrod i ddyfais neu gynnwys digidol sy’n perthyn i chi
  • colled neu ddifrod sy’n deillio o anallu i gael mynediad neu ddefnyddio eich GOV.UK One Login
  • colledion anuniongyrchol neu ddilynol nad oedd modd i chi a ni eu rhagweld pan ddechreuoch ddefnyddio GOV.UK One Login (mae colled neu iawndal yn ’rhagweladwy’ pan fyddant yn ganlyniad amlwg i ni dorri’r telerau ac amodau hyn neu os oeddent yn cael eu hystyried gennych chi a ni pan ddechreuoch ddefnyddio GOV.UK One Login)
  • colli elw, refeniw, contractau, cynilion, ewyllys da a gwariant wedi’i wastraffu

Nid yw GDS yn atebol am ei fethiant i gydymffurfio â’r telerau ac amodau oherwydd amgylchiadau sydd y tu hwnt i reolaeth GDS.

Nid yw hyn yn effeithio ar unrhyw hawliau cyfreithiol sydd gennych fel defnyddiwr mewn perthynas â gwasanaethau neu feddalwedd diffygiol. Ceir cyngor am eich hawliau cyfreithiol gan eich Cyngor ar Bopeth leol neu Swyddfa Safonau Masnach.

Dolenni o GOV.UK One Login

Nid ydym yn gyfrifol am unrhyw ddolenni o’ch GOV.UK One Login i wefannau sy’n cael eu rheoli gan adrannau ac asiantaethau eraill y llywodraeth, darparwyr gwasanaethau neu sefydliadau eraill. Nid oes gennym unrhyw reolaeth dros y cynnwys ar y gwefannau hyn.

Nid ydym yn gyfrifol am:

  • ddiogelu unrhyw wybodaeth rydych yn ei roi i’r gwefannau hyn
  • unrhyw golled neu ddifrod a allai ddod o’ch defnydd o’r gwefannau hyn, neu unrhyw wefannau eraill y maent yn cysylltu â hwy

Rydych yn cytuno i’n rhyddhau o unrhyw hawliadau neu anghydfodau a allai ddod o ddefnyddio’r gwefannau hyn.

Dylech ddarllen yr holl delerau ac amodau, polisïau preifatrwydd a thrwyddedau defnyddwyr terfynol sy’n ymwneud â’r gwefannau hyn cyn i chi eu defnyddio.

Sicrhau bod y telerau ac amodau hyn yn cael eu dilyn

Mae pob adran o fewn y telerau ac amodau hyn yn gweithredu ar wahân. Os yw unrhyw ddarpariaeth yn y telerau ac amodau hyn yn annilys neu’n ddi-rym yn ôl y gyfraith berthnasol, byddwn yn ei disodli â darpariaeth ddilys a gorfodol sy’n cyfateb yn fwyaf agos i fwriad y gwreiddiol. Mae hyn yn cynnwys ymwadiadau gwarant a gwaharddiadau, a chyfyngiadau atebolrwydd. Bydd gweddill y telerau ac amodau hyn yn parhau mewn grym.

Os ydym yn oedi cyn gorfodi’r telerau ac amodau hyn, gallwn barhau i’w gorfodi yn nes ymlaen. Os nad ydym yn mynnu’n syth eich bod yn dilyn y gofynion o fewn y telerau ac amodau hyn, neu rydym yn oedi cyn cymryd camau yn eich erbyn os byddwch yn eu torri, ni fydd hyn yn ein hatal rhag cymryd camau yn eich erbyn nac yn atal eich angen i ddilyn y gofynion yn nes ymlaen.

Cyfraith lywodraethol

Mae cyfreithiau Lloegr yn berthnasol yn unig i’r telerau ac amodau hyn ac i’r holl faterion sy’n ymwneud â defnyddio GOV.UK One Login. Bydd unrhyw achos gweithredu sy’n codi o dan neu mewn cysylltiad â’r telerau ac amodau hyn neu eich defnydd o GOV.UK One Login yn ddarostyngedig i awdurdodaeth unigryw llysoedd Lloegr.

Cysylltu â ni

Cysylltwch â ni os oes gennych:

  • cwestiynau am y telerau ac amodau hyn
  • cwestiynau neu gŵyn am GOV.UK One Login

Darganfyddwch fwy am GDS a’n rôl.